top of page
Writer's pictureEglwys Penuel Church

Datganiad ynglŷn â gwerthiant Capel Penuel

Ym mis Awst 2024, fe werthwyd ein hadeilad; Capel Penuel.

 

Roeddem wedi cael ein hysbysu y byddai'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel amgueddfa hanesyddol. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn anffodus, mae ein heglwys wedi dod yn ymwybodol o rai o fwriadau eraill y perchnogion presennol. Nid oeddem yn ymwybodol o'r bwriadau hyn pan werthwyd yr adeilad.

 

Rydyn ni, fel eglwys Penuel, yn credu’n bendant yng ngwirionedd Gair Duw, y Beibl. Dymunwn ddatgan, felly, nad yw’r bwriadau ar gyfer safle’r capel ar gyfer y dyfodol, fel yr ydym yn eu deall, yn cyd-fynd ag ethos, gwerthoedd a chredoau ein heglwys. Hoffem wneud yn glir nad ydym, fel eglwys, yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r “amgueddfa” hon.

 

Credwn nad adeilad yw yr eglwys; pobl Dduw ydyw. Llawenhawn gan hynny fod yr Arglwydd yn trigo yn ei bobl ac yn eu mysg, pa le bynnag y bônt. Gweddïwn ar i’w Deyrnas gael ei hyrwyddo yma yng Nghaerfyrddin er Ei ogoniant, y byddem yn ymdrechu i gynnal gwirionedd Gair Duw, ac y byddem yn oleuni yn ein cymuned.

 

Dyma ddolen i’n gwasanaeth Sul olaf yng Nghapel Penuel, pan nodwyd diwedd un bennod ym mywyd ein heglwys. Edrychwyd ymlaen hefyd at ddechrau’r bennod nesaf wrth i ni geisio hwyluso twf ein heglwys. Os hoffech ragor o wybodaeth am fywyd ein heglwys, cymerwch olwg ar dudalen Digwyddiadau ein gwefan.

34 views

Comentarios


bottom of page