top of page

Beth ydyn ni'n credu?

Y Beibl

 

Cafodd y Beibl ei ysgrifennu gan nifer o bobl mewn ieithoedd gwahanol, dros amser hir. Ynddo ceir hanes am Dduw’n ymwneud â’r byd, yn ymwneud â ni!

​

Duw

 

Mae Duw yn cynnal ei greadigaeth ac yn cyfathrebu â’r byd. Credwn fod Duw wedi datguddio ei hun yn ei greadigaeth, yn y Beibl, ac yn bennaf oll yn ei Fab, Iesu Grist.

​

Pobl

​

Mae Duw yn ein caru ni i gyd. Rydym wedi cael ein creu ar lun a delw Duw. Ond mae rhywbeth wedi digwydd i fyd perffaith Duw. Daeth pechod i’r byd trwy anufudd-dod. Ein problem pennaf ni yw pechod am ei fod yn ein gwahanu ni oddi wrth Dduw.

​

Iesu Grist

​

Credwn fod Iesu Grist, Mab Duw, wedi byw bywyd perffaith ar y ddaear ac wedi marw ar y groes yn ein lle. Derbyniodd y gosb am ein pechod ni, gan offrymu ei hun yn aberth perffaith drosom. Credwn fod Iesu’n fyw ac yn Arglwydd yn y nef ac yn rhoi bywyd tragwyddol i bob un sy’n credu ynddo.

​

Ysbryd Glân

 

Credwn fod yr Ysbryd yn argyhoeddi o bechod, yn arwain pobl at Iesu ac yn dod i fyw i galon pob Cristion.

 

Bywyd Tragwyddol

 

Credwn mai rhodd yw bywyd tragwyddol i bob un sy’n edifarhau am ei bechod ac yn credu yn Iesu Grist fel Gwaredwr ac yn ei arddel fel Arglwydd.

 

Yr Eglwys

 

Credwn fod pob Cristion yn aelod o’r Eglwys. Ceir darluniau prydferth yn y Beibl o’r Eglwys, fel gardd ffrwythlon, corff byw, adeilad cadarn, a phriodferch brydferth. Credwn fod aelodaeth yn yr eglwys leol yn bwysig. Bwriad Duw yw bod yr Eglwys yn ganolfan addoliad, addysg, gweddi, gwasanaeth, a chenhadaeth.

bottom of page