top of page

Aelodau

Mae’r eglwys yn grŵp cymysg o bobl o bob math o gefndiroedd gyda doniau a chyfrifoldebau gwahanol sy’n caru’r Arglwydd Iesu ac yn dod ynghyd i greu ein heglwys leol. Yr Iesu yw conglfaen yr Eglwys ac felly ef yw’r Pen, a’r Beibl yn awdurdod i bopeth mae’r eglwys yn ei wneud.

Gweinidog

Mae Aron wedi bod yn weinidog ar eglwys Penuel ers 2011. Magwyd ef ym Mhenygroes, ac wedi gadael yr ysgol, bu Aron yn gweithio yng Ngholeg y Bala fel Gweithiwr Plant ac Ieuenctid, cyn symud i Lansannan i ddilyn cwrs hyfforddiant i’r weinidogaeth gyda DAWN (Datblygu Arweinwyr i Weinidogaethau Newydd). Daeth i Gapel Penuel am gyfnod byr cyn y Pasg yn 2009, a dychwelyd am ddwy flynedd fel Gweinidog dan hyfforddiant. Mae’n parhau fel Gweinidog heddiw. Mae’n briod ag Elain ac mae ganddynt 3 o blant; Hanna, Joseff a Mabli.

Diaconiaid

Er bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan yr aelodau, mae tîm o ddiaconiaid yn hyrwyddo gwaith yr eglwys o dan arweiniad y gweinidog.

bottom of page