top of page

beth sy'n digwydd

SULIAU

Mae gennym ddwy oedfa pob Dydd Sul ym Mharc Dewi Sant (SA31 3HB).

  • Oedfa Gymraeg am 10:30 yb

  • Oedfa Saesneg am 5 yp

​

Rydyn ni eisiau i chi deimlo croeso yn ein heglwys! Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin wedi eu nodi isod, ond cysylltwch â ni os oes gennych chi gwestiwn pellach. 

​

Ble ydyn ni'n cwrdd?

​

Rydyn ni'n cwrdd ar lawr uchaf Adeilad 4 ym Mharc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, SA31 3HB. Mae parcio am ddim ar gael yn y meysydd parcio ym mlaen a thu cefn i adeilad 4. 

 

Mae mynedfa'r adeilad drwy ddrws gwyn rhwng Adeilad 3 ac Adeilad 4. Mae modd cyrraedd y llawr uchaf gan ddefnyddio lifft neu risiau, 

 

Bydd pobl yn croesawu wrth y fynedfa er mwyn dangos i chi lle i fynd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, fe fyddan nhw'n fwy na hapus i'ch helpu! 

​

Pa oedfa dylwn fynychu?

​

Fel arfer, mae ein hoedfa foreuol yn y Gymraeg, ac mae'r oedfa gyda'r hwyr yn y Saesneg. 

​

Mae cynnwys y ddwy oedfa (pregethau, emynau, ayyb) yn gwbl wahanol, felly mae croeso i chi fynychu'r ddwy. 

​

Gan fod llawer o aelodau nad sy'n medru'r Gymraeg, darperir cyfieithu ar y pryd i'r Saesneg yn yr oedfa foreuol. Os hoffech ddefnyddio'r cyfleusterau cyfieithu, bydd y sawl sy'n croesawu yn darparu'r offer ac yn dangos i chi sut mae'n gweithio. Mae'r rhan helaeth o'r caneuon yn cael eu harddangos yn y ddwy iaith, ac mae croeso i chi ganu yn y naill iaith neu'r llall. 

​

Yn gyffredinol, ar ail a thrydydd Sul y mis, rydym yn dathlu Swper yr Arglwydd, yn y bore a'r hwyr yn ôl eu trefn.

​

Pryd dylwn i gyrraedd?

​

Mae croeso i chi gyrraedd 5-10 munud cyn i'r oedfa gychwyn. Teimlwch yn rhydd i siarad gyda phobl neu i gymryd sedd. Mae cyrraedd munud olaf hefyd yn iawn!

​

Beth ddylwn i wisgo?

​

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ein heglwys yn gwisgo'n anffurfiol, ond gwisgwch chi beth bynnag sy'n gyfforddus i chi.

​

Beth sy'n digwydd yn ystod yr oedfa?

​

Mae pob oedfa tua 60 munud o hyd, ac fel arfer yn dilyn yr un drefn.

  • Cyhoeddiadau am ddigwyddiadau ym mywyd yr eglwys

  • Dwy gân (croeso i chi ganu neu i wrando)

  • Gweddi

  • Darllen o'r Beibl

  • Pregeth yn esbonio'r darlleniad (mae modd dod o hyd i bregethau fan hyn.

  • Dwy gân

  • Gweddi fer

​

Beth am blant?

​

Yn ystod adeg tymor, rydym yn cynnig Ysgol Sul i blant 4-11 mlwydd oed yn ystod yr oedfa foreuol. Mae'r plant fel arfer yn gadael ar ôl y ddwy gân gyntaf ac yn dychwelyd yn ystod y ddwy gân olaf. 

​

Mae croeso i blant aros yn y brif-ystafell am yr holl oedfa (yn y bore a gyda'r hwyr), ond mae cyfleusterau crèche ar gael ar gyfer y ddwy oedfa.

 

Mae ein polisi diogelwch ar gael fan hyn

 

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd yr oedfa?

​

Ar ddiwedd y ddwy oedfa, mae lluniaeth ar gael (fel arfer te, coffi a bisgedi). Mae croeso mawr i chi i aros am baned a sgwrs!

GRWPIAU CYMDEITHAS

Mae ein grwpiau cymdeithas yn gyfle i gwrdd â grŵp llai o bobl i ddarllen a dysgu o air Duw gyda'n gilydd. Mae ein grwpiau yn cyfarfod yn wythnosol yn ystod adeg tymor. Fel arfer, rydyn ni'n gweithio drwy gyfres o gwestiynau am ddarn o'r Beibl ac yn treulio amser byr mewn gweddi ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn.

​

Ar hyn o bryd, mae tri grŵp cymdeithas yn rhedeg:

  • ​Dydd Mawrth am 2 yp - grŵp iaith Saesneg ym Mharc Dewi Sant

  • Dydd Mawrth am 7:30 yh - grŵp iaith Gymraeg yn nhÅ· un o'r grŵp

  • Dydd Iau am 7 yh - grŵp iaith Saesneg yn nhÅ· un o'r grŵp

​

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp cymdeithas, plis cysylltwch â ni.​

CWRDD GWEDDI

Gweddi yw un o'r rhoddion mwyaf mae ein Brenin a'n Duw wedi rhoi i ni. Rydyn ni'n credu bod pŵer mewn gweddi a bod Duw yn gwrando ac yn ymateb yn rasol yn unol â'i ewyllys sofran. Mae gweddi yn dod â ni'n agosach at Dduw, ac wrrth i ni weddïo gyda'n gilydd, rydyn ni'n dod yn agosach i'n gilydd hefyd!

​

Mae gennym gwrdd gweddi wythnosol am 7yh pob dydd Mercher ym Mharc Dewi Sant.

​

Fel arfer, mae'r cwrdd gweddi yn dechrau gyda defosiwn byr o'r Beibl, cyn darllen am waith Open Doors gyda'r eglwys sy'n cael ei herlid a rhannu pwyntiau gweddi. Rydyn ni wedyn yn gweddïo dros y pethau amrywiol sydd wedi cael eu codi yn ystod y cyfarfod.

​

Ar ddydd Mercher olaf y mis, rydyn ni'n ffocysu'n benodol ar glywed am a gweddïo dros waith ein partneriaid cenhadaeth ar draws y byd. 

​

Plis cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.​

bottom of page