top of page

Beth yw'r newyddion da?

Ydych chi wedi clywed Cristnogion yn siarad am y Newyddion Da, neu'r Efengyl o'r blaen?

​

I ni ym Mhenuel, mae newyddion da Iesu Grist wedi newid ein bywydau!

Mae'r newyddion da yn hollol greiddiol i fywyd y Cristion - ond beth yw e?

 

Er mwyn deall y newyddion da, rhaid deall beth mae'r Beibl yn dweud am Dduw ac amdanon ni.

​

Creodd Duw pobl ar ei lun a'i ddelw ar mwyn i bobl ei nabod ef, a mwynhau perthynas gyda fe. Ond mae'r Beibl yn esbonio ein bod ni wedi troi ein cefnau ar Dduw, wedi syrthio'n fyr o'i safon perffaith (pechod), ac oherwydd hynny, rydyn ni wedi ein gwahanu oddi wrtho. Mae'r Beibl yn dysgu bod pobl yn euog o droseddu yn erbyn Duw, ac oherwydd hynny yn haeddu ei farn cyfiawn.

​

Ond! Nid dyna oedd bwriad Duw ar gyfer pobl, ac felly, cyn hyd yn oed ein creu ni, penderfynodd Duw dod i'n byd ym mherson Iesu Grist er mwyn gwneud ffordd i adfer ein perthynas gyda fe - er mwyn i ni allu ei nabod e fel Tad.

​

I adfer y berthynas, roedd rhaid delio gyda ein heuogrwydd, y farn, a'n gwahaniad rhag Dduw. Dewisodd Iesu delio gyda'r pethau yma drwy fynd i'r groes.


​

Drwy farw ar y groes yn ein lle, rydyn ni'n credu bod Iesu wedi gwneud ffordd i ni gael ein hadfer i'n pwpras fel pobl - nabod Duw! Er bod Iesu heb bechod, bu farw fel pechadur gan gymryd ein heuogrwydd a'r farn arno fe ei hun. Am fod Iesu wedi atgyfodi, mae bywyd newydd ar gael i ni ynddo fe, bywyd newydd yn rhydd o bechod, euogrwydd a gwarth.

​

Sut mae hynny'n dod yn wir i berson? Troi at Iesu Grist mewn ffydd - cydnabod ein bod ni angen ei faddeuant, a derbyn ei rodd rhad i ni. Drwy hynny, mae'r Beibl yn dweud lle buon ni gynt yn ddieithriaid ac yn elynion i Dduw, rydyn ni'n gallu dod yn blant i Dduw - am newyddion da rhyfeddol!

​

Ond mae mwy eto i'r newyddion da! Wrth edrych ar y byd toredig o'n cwmpas - casineb, trais, drygioni - mae'n hawdd i ddigalonni a cholli gobaith am ddyfodol gwell.

 

Mae'r Beibl yn pwyntio ni nid yn unig at yr hyn mae Duw wedi gwneud, ond hefyd at yr hyn y bydd Duw yn ei wneud - bydd e'n adfer y byd mewn creadigaeth newydd, heb ddrygioni, heb boen - heb ddagrau hyd yn oed.

​

Mae newyddion da ar dy gyfer di'n bersonol ac ar gyfer y greadigaeth gyfan yn Iesu. 

​​

Os yw'r Newyddion Da yma sy'n cynnig rhyddid, maddeuant, cyfiawnder a bywyd newydd gyda Duw yn rhywbeth rydych chi eisiau archwilio ymhellach, cysylltwch gyda ni! Does dim byd hoffen ni drafod mwy!

bottom of page