top of page

Newydd i Gaerfyrddin?

Mae cychwyn mewn lle newydd yn gallu bod yn brofiad anodd i lawer o bobl.

 

Efallai eich bod chi wedi symud i'n tref ni i astudio neu weithio.

Efallai eich bod chi'n edrych i ymuno ag eglwys.

Efallai eich bod chi'n teimlo ar goll ac yn chwilio am gymuned.

​

Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae croeso mawr i chi ymuno gyda ni ym Mhenuel i brofi cymuned go iawn - cymuned lle mae Crist yn y canol.

​

Mae croeso mawr i chi estyn allan atom i ddysgu mwy am ein heglwys, a sut y gallwch chi fod yn rhan o fywyd Penuel.​​

SULIAU

​

Ar ddydd Sul, rydyn ni'n cwrdd am 10:30 yb ar gyfer oedfa Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, ac am 5:00 yp ar gyfer oedfa Saesneg.

 

Mae croeso mawr i chi ymuno â ni wrth i ni addoli Duw gyda'n gilydd!

​​

​

CANOL WYTHNOS

​

Rydyn ni'n credu bod yr eglwys yn fwy na chyfarfod ar y Sul. Rydyn ni'n cwrdd yn gyson yn ystod yr wythnos er mwyn profi cymdeithas, anog ein gilydd a cheisio Duw gyda'n gilydd.

 

Mae tri grŵp cymdeithas ar yr adegau canlynol;

​

  • Dydd Mawrth, 2:00 yp yn Adeilad 4, Mharc Dewi Sant (Grŵp Saesneg)

  • Nos Fawrth, 7:30 yh yn nhÅ· un o'r grŵp (Grŵp Cymraeg)

  • Nos Iau, 7:00 yh yn nhÅ· un o'r grŵp (Grŵp Saesneg)

​

Rydyn ni'n cwrdd i weddïo gyda'n gilydd bob nos Fercher yn Adeilad 4 am 7 yh.

bottom of page